Reaseheath College is proud to continue supporting Wales YFC / 
Mae Coleg Reaseheath yn falch o gefnogi CFfI Cymru

Thank you for your interest in Reaseheath College – one of the UK’s premier land-based colleges! Our beautiful campus is situated in Nantwich, Cheshire and is home to around 4000 students.

We offer a range of courses, all of which you can find on this website. Reaseheath has a national reputation as the UK’s most successful and forward thinking provider of agricultural education. A hugely popular course, our Agriculture graduates leave Reaseheath with the practical skills and knowledge required to work in such a fast changing industry.

This wouldn’t be possible without our unrivalled, world class facilities and resources throughout campus which we are continuously developing. £3 million has recently been invested into our dairy and livestock facilities, including a state-of-the-art rapid exit milking parlour and a high welfare pig unit. We also have a demonstration anaerobic digester on campus.

We have on-site residential accommodation for 705 students and are currently renovating our dining and recreational areas to help make your experience as a student here the best possible. Take a look around our website and see what Reaseheath can offer you!   

 

Diolch am eich diddordeb yng Ngholeg Reaseheath – un o brif golegau yn seiliedig ar dir y Deyrnas Unedig. Lleolir ein campws hardd yn Nantwich, Swydd Caer ac mae’n gartref i oddeutu 4000 o fyfyrwyr.

Rydym yn cynnig amryw o gyrsiau, a gallwch ddysgu mwy amdanynt ar y wefan yma. Mae gan Reaseheath enw da yn genedlaethol fel darparwr addysg amaethyddol lwyddiannus ac un sy’n meddwl yn flaengar. Mae’r cwrs amaeth yn hynod o boblogaidd, ac mae ein graddedigion yn gadael Reaseheath gyda’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn gweithio mewn diwydiant sy’n newid mor gyflym.

Ni fyddai hyn yn bosib oni bai am ein cyfleusterau ac adnoddau ardderchog ar draws y campws sy’n datblygu’n barhaus. Yn ddiweddar, buddsoddwyd £3 miliwn i’n cyfleusterau llaeth a da byw, gan gynnwys parlwr godro allanfa gyflym ac uned lles uchel ar gyfer moch.

Ceir lle i 705 o fyfyrwyr i aros ar y campws ac ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein hardaloedd bwyta a chyfleusterau hamdden er mwyn gwneud eich profiad yma fel myfyrwyr yr un gorau posib. Edrychwch o amgylch y safle er mwyn gweld beth sydd gennym i’w gynnig i chi!